Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (201)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu (60 munud)
Dogfennau Ategol Rhaglen Lywodraethu – Adroddiad Cynnydd Cryno Mehefin 2014 Diweddariad ar weithredu’r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu |
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Wyddoniaeth Cymru (30 munud)
Dogfennau Ategol Adroddiad Elsevier - Cymhariaeth Ryngwladol o Berfformiad Sylfaen Ymchwil Cymru 2013’ (Saesneg yn unig)
|
5 Dadl: Gwella Gofal Sylfaenol a Chymunedol (60 munud) NDM5515 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i wella a pharhau i integreiddio gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyllid ychwanegol y cytunwyd arno gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol yng nghyllideb 2014/15.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn gwelliannau i'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a fyddai wedi rhoi terfyn ar yr arfer rheolaidd o slotiau gofal 15 munud ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i roi terfyn ar yr arfer hwn.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu ynghylch yr angen am fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau gofal sylfaenol, sef yr hyn a nodir yn eu hymgyrch Patients First: Back General Practice.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella trefniadau cynllunio’r gweithlu gofal sylfaenol ac i weithredu ar frys i roi sylw i’r heriau sy’n gysylltiedig â recriwtio meddygon teulu ledled Cymru.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith y bydd toriadau termau real Llywodraeth Cymru i gyllideb y GIG yn ei gwneud yn fwy anodd sicrhau gwelliannau ac integreiddio gofal sylfaenol, gofal yn y gymuned a gofal cymdeithasol ymhellach yng Nghymru.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod mwy a mwy o feddygon teulu yn nesáu at oed ymddeol, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ac yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu cynllun clir i gael meddygon teulu newydd yn eu lle.
|
6 Dadl: Llywodraethu Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru (60 munud) NDM5516 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod gwerth presennol a gwerth posibl tirweddau dynodedig Cymru i amgylchedd, economi, iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl Cymru.
2. Yn nodi’r adolygiad sydd yn yr arfaeth o drefniadau llywodraethu ar gyfer tirweddau dynodedig yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn dathlu cyfraniad tri pharc cenedlaethol Cymru at ein treftadaeth ac yn cefnogi'r rôl y maent yn parhau i'w chwarae yn hybu hunaniaeth unigryw Cymru.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn credu y byddai mwy o atebolrwydd democrataidd yn arwain at wella’r modd y mae’r parciau cenedlaethol yn cael eu llywodraethu ac yn gwella’r berthynas rhwng awdurdodau’r parciau a’r trefi a’r cymunedau sydd o fewn eu ffiniau.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r argymhellion yn ymwneud â pharciau cenedlaethol yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn credu bod angen rhoi pecyn cynhwysfawr o ddiwygiadau ar waith cyn gynted ag y bo modd.
Mae adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ar gael yn:
http://wales.gov.uk/docs/dpsp/publications/psgd/140120-psgd-full-report-cyv2.pdf |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 4 Mehefin 2014